

Dylun10 - Eldeg Grug Lewis
Fe wnaeth Eldeg astudio gradd “Surface Pattern and Textile Design” ym mhrifysgol Leeds Arts, a dyma ble wnaeth ei hangerdd am batrymau a phrintio ddechrau. Mae Eldeg yn ddylunwraig amlbwrpas ac yn hoffi gwthio ffiniau i gyflawni dyluniadau chwareus a modern. Mae lliw yn rhan bwysig o’i gwaith a mae’n ei ddefnyddio i strwythyro ei gwaith.
Mae ei phrintiau cymhleth yn cael eu creu trwy ddefnyddio lluniadau manwl a aml-haenog. Mae rhain wedyn yn cael eu printio gyda llaw neu yn ddigidol. Trwy gyfuno gwaith crefft llaw a digidol gellir creu gwaith arloesol ac unigryw.
Mae ei magwraeth Gymraeg yn nghanol Ynys Mon yn ysbrydoliaeth mawr i’w gwaith - yr iaith, natur a’r cefn gwlad. Mae hi’n falch o’i gwreiddiau ac yn mwynhau creu dyluniadau sy’n adlewyrchu Cymreictod.
Mae Eldeg yn gweld patrymau ym mhob man ac yn cael ei hysbrydoli gan farciau a siapiau gwahanol mewn gwrthrychau a strwythyrau.
Fe wnaeth hi ddechrau dylunio a phrintio patrymau eu hyn ar gynhyrchion amrywiol a nawr mae hi wedi sefydlu Dylun10 i’w rhannu gyda chi!

Eldeg Grug Lewis